Cimwch.com

 

Tra'n darllen y bennill hon o waith Gwilym y Rhos yn llyfr "ar Hyd Ben 'Rallt" gan Elfed Gruffydd, sylweddolais mai ond ychydig o'r enwau Cymraeg am bysgod y môr oedd yn gyfarwydd i mi. O ganlyniad, es ati i ddarganfod pa rai oedd y pysgod yn y bennill. Wedi cael blâs ar y chwilota es ymlaen i gasglu rhagor o enwau ac maent i'w gweld ar y tudalenau Enwau'r pysgod ac Enwau'r pysgod cregyn.

 

Whilst reading this poem by Gwilym y Rhos in Elfed Gruffydd's book "Ar Hyd Ben 'Rallt," I realised that I was familiar with only a few of the Welsh names for sea fish. As a result, I tried to identify the fish in the poem. I then became interested in collecting more names and they can be seen on the Fish names and Shellfish names pages.

 

 

Pysgod Enlli - Gwilym y Rhos

 

Wrth greigiau mawreddog môr Enlli

Mae lluoedd i’w weld o bysg,

Ceimychiaid a gwyniaid a glasin,

A chregin myherin’n eu mysg;

Seguriaid, crwbaniaid a chrancod,

A delir yn hylldod ar drai,

Er cymaint a godwyd o’r genlli,

Nid ydyw pysg Enlli ddim llai.

 

Y cwd-coch, y mecryll a’r gwyniaid

Llysywod, mingryniaid mewn gro,-

Llymriaid, howlesod, a’r cathode,

Ni welwyd gwell pysgod mewn bro:

Chwidliniaid, morleisiaid a’r lwdlaid,

Draenogiaid, penbyliaid yn stôr,

Torbytiaid sy’n lluoedd wrth Enlli

Yn chwarae dan genlli’r dwfn fôr.

 

Morgyllill, picydiaid, gwelleifiaid,

Y llymeirch, a’r cocos, a’r cŵn,

A’r llu cregin gleision ysblennydd,

Er siomiant daw’r pibydd a’i sŵn:

Coelengau, y "cod ffish," cleiriachod,

Y gwrachod a’r lledod tra llwyd,

A gleisiaid, a phenwaig yn ffynu

Mae rheiny’n dra gwerthfawr yn fwyd.

 

A oes yna rhywyn yn gwybod beth yw "glasin" a "seguriaid."?

Does anyone know what "glasin" and "seguriad" are?

 

Top

E-Bost      E-mail

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2003