Cimwch.com

Gadael Rhuol, Porth Neigwl i V-fylchu

Leaving Rhuol, Hell's Mouth to V-notch
 

Rhaglen Nodi Cimychiaid  Rhicyn ‘V’

Rhwng 2003 a 2006, derbyniodd Pwyllgor Pysgodfeydd Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (PPGOLL&GC) bron i £200,000 gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhaglen i nodi cimychiaid â ‘V’ yn yr Ardal Amcan 1 sy’n cynnwys Pen Llŷn ac yn ymestyn drwy Gonwy, Gwynedd, Môn a Cheredigion,

Roedd brywnesau (cimychiaid benywaidd sy’n cario wyau o dan eu boliau) yn cael eu nodi â rhicyn V yn eu cynffonnau cyn eu dychwelyd i’r môr. Tra erys y rhicyn yn y gynffon bydd y cimwch yn cael ei amddiffyn o dan is-ddeddfau’r Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr a deddfwriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn, gall y cimwch atgenhedlu’n ddi-rwystr i hybu’r cynhyrchiad wyau a recriwtiad yr ieuanc i’r bysgodfa. Pob tro mae’r gimyches yn bwrw'i chisten bydd y bwlch yn mynd yn llai. Mae’r bwlch yn diflannu’n llwyr ar ôl 2 neu 3 blynedd ac fe ellid dal y gimyches a’i chadw’n gyfreithlon.

Roedd y rhaglen yn ffordd ymarferol a di-ymyrraeth o amddiffyn y cimychesau magu yn eu cynefin ac nid yw’n peri llawer o drafferth i’r pysgotwyr. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y cimychiaid yn cael eu dychwelyd i fan sydd cyn agosed ag sy’n bosib at y man ble’u daliwyd yn y lle cyntaf.

Derbyniai'r pysgotwyr pris llawn y farchnad am bob cimwch a roddwyd i’w nodi a’i ddychwelyd yn ôl i’r môr. Gellir y pysgotwyr felly dderbyn tal ddwy waith am y cimychiaid ac yn ystod y cyfnod tra mae’r cimychiaid yn rhydd mae’r cimychiaid yn helpu i gynnal y stociau.

Dibynai llwyddiant y rhaglen ar gymorth a brwdfrydedd y pysgotwyr lleol.

LOBSTER ‘V’– NOTCHING PROGRAMME

Between 2003 and 2006 the North Western and North Wales Sea Fisheries Committee obtained funding of almost £200,000 from the European Commission for a lobster V-notching programme in the Objective 1 area including Llŷn and covering Conwy, Gwynedd, Anglesey and Ceredigion.

Berried female lobsters (those carrying eggs underneath their abdomen) were marked with a V notch in the tail before being returned to the sea. Whilst the notch remains in the tail, the lobster is protected under SFC byelaws and National Assembly of Wales legislation.

Whilst it is protected the lobster can reproduce freely, boosting egg production and recruitment of juveniles to the fishery. With each subsequent moult, the notch becomes smaller. After 2 to 3 years it disappears completely and the lobster may then be caught and legally retained.

The programme was a positive and non-intrusive way of protecting the breeding females in their natural environment without causing undue inconvenience to the fishermen. Every effort was made to ensure that the lobsters are returned as near as is practicable to their point of capture.

Fishermen received the full market price for each lobster which was then notched and returned to the sea. Fishermen, therefore, could effectively be paid twice for a lobster and in the intervening period these lobsters are helping to maintain the stocks.

The success of the V notching programme was due in no small part to the help and enthusiasm of local fishermen.

V-fylchu/notching

 Nifer y cimychiaid sydd wedi'u nodi a'u rhyddhau yn Llŷn hyd yn hyn yn ystod 2003.  The number of lobsters notched and released in Llŷn to date during 2003.
 Mis Nifer / Number Month
Awst 15 August
Medi 228 September
Hydref 122 October
Tachwedd 60 November
CYFANSWM - 2003 425 TOTAL - 2003

 

 Nifer y cimychiaid sydd wedi'u nodi a'u rhyddhau yn Llŷn hyd yn hyn yn ystod 2004.  The number of lobsters notched and released in Llŷn to date during 2004.
 Mis Nifer / Number Month
Ebrill 60 April
Mai 315 May
Mehefin 276 June
Gorffennaf 296 July
Awst 419 August
Medi 476 September
Hydref 183 October
Tachwedd 124 November
Rhagfyr 80 December
CYFANSWM - 2004 2229 TOTAL - 2004

 

Nifer y cimychiaid sydd wedi'u nodi a'u rhyddhau yn Llŷn hyd yn hyn yn ystod 2005.  The number of lobsters notched and released in Llŷn to date during 2005.
 Mis Nifer / Number Month

Chwefror

33

February

Mawrth

113

March

Ebrill

190

April

Mai

308

May

Mehefin

443

June

Gorffennaf

1247

July

Awst

1521

August

Medi

613

September

Hydref

281

October

CYFANSWM - 2005

4749

TOTAL - 2005

 

Nifer y cimychiaid sydd wedi'u nodi a'u rhyddhau yn Llŷn hyd yn hyn yn ystod 2006. The number of lobsters notched and released in Llŷn to date during 2006.

CYFANSWM - 2006

1246

TOTAL - 2006

 

CYFANSWM Y CYNLLUN - 8,649 - PROGRAMME TOTAL

 

Diolch yn fawr i bysgotwyr Llŷn am eu cefnogaeth / Thanks to the Llŷn fishermen for their support.

 

Top

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2004-2006