Cimwch.com

 

Taith o amgylch porthoedd Gogledd Llŷn  Journey around the coves of North Llŷn

Hyde Hall (1810) - "The shore of the ground is notched into several small creeks, as Porth Tywyn, Colmon, Gwylan and Ysgaden, in all of which ply the vessels engaged in the herring fishery, in pursuit of which they are said to frequently stretch over as far as the Irish coast."

(Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy/Click on photos to enlarge)

PORTH LLANLLAWEN

Yn ystod y 1980au roedd cwch bychan o'r enw "Elidir" yn pysgota allan o'r borth gul hon. Roedd "Elidir" yn un o gychod Aberdaron ond yr oedd yn wahanol i'r lleill am nad oedd ond tua 11 troedfedd o hyd.

Roedd yn cael ei thynnu i fynnu'r traeth gyda chymorth bloc ar raff weiran a osodwyd ar draws y borth. Gwelir y bloc a'r rhaff weiran yn y llun cyntaf.

Mae'n rhaid i gwch ddod i mewn ac allan o'r borth rhwng y cerrig sydd i'w gweld yn yr ail lun. Ni allai cwch llawer lletach na "Elidir" fynd i mewn i Borth Llanllawen. Nid oes cwch ym Mhorth Llanllawen ar hyn o bryd.

 

"Elidir"

 

"Elidir" - Porth Llanllawen

 

PORTH LLANLLAWEN

During the 1980s a small boat called "Elidir" fished out of this narrow cove. "Elidir" was an Aberdaron boat but was different to the others in that she was only about 11 feet long.

She was dragged up the beach with the aid of a block on a wire rope slung across the cove. The block and wire rope can be seen in the first photo.

A boat must come in and go out of the cove between the rocks seen in the second photo. A boat that was any wider than "Elidir" could not enter Porth Llanllawen. At present, there in no boat at Porth Llanllawen.

PORTH FERIN

Hyd at y 1990au, roedd Owen Jones, Cae Hic, yn cwella allan o Borth Ferin ac yn y llun hwn mae yn dal siacar goch.

Nid oes modd mynd a thractor i lawr i'r borth hon felly mae'n rhaid tynnu'r cychod i fynnu'r traeth gyda blociau a pheiriant.

 

Owen Jones, Cae Hic.

 

Porth Ferin

 

Blociau a pheiriant/Pulley blocks and stationary engine.

PORTH FERIN

Until the 1990s, Owen Jones, Cae Hic, potted out of Porth Ferin and in this photograph he is holding a crawfish.

There is no vehicular access to this cove so the boats have to be hauled up the beach with the aid of a series of pullies and a stationary engine.

 

PORTH GWYDLIN

Yn nechrau haf 1933, aeth tri mab Tirdyrus, Bryncroes allan o Borth Gwydlin i godi rhwyd. Bu'r cwch droi a boddwyd y tri ac mae'r englyn hon gan R. Williams Parry ar eu bedd ym mynwent Capel Hebron.

 

Y tri llanc eon - sydd isod

Soddasant i'r eigion;

Obry ni chynnwys Hebron

Na physg, na therfysg, na thon.

 

Porth Gwydlin

 

PORTH GWYDLIN

At the beginning of the summer of 1933 the three sons of Tirdyrus, Bryncroes went out of Porth Gwydlin to lift a net. Their boat capsized and the three were drowned. This "englyn" by R.Williams Parry is on their grave in the cemetary at Capel Hebron.

PORTH GOLMON

Daliwyd pedwar gŵr o Borth Golmon yn smyglio halen ac fe'u carcharwyd yng Nghaernarfon. Bu eu teuluoedd yn erfyn am iddynt gael eu rhyddhau ond fe'u gwrthodwyd. Teneuodd un dyn gymaint fel y gallodd ddianc rhwng bariau'i gell. Cyrhaeddodd adref a chuddiwyd ef yn y feuddau gan ei deulu. Ar ôl iddo ddod ato'i hyn, gwisgodd mewn dillad merch ac fe lwyddodd i ddianc i'r Amerig.

Dywedodd Hyde Hall (1810) bod ychydig o le i'r cychod penwaig ymochel ym Mhorth Golmon.

Ers talwm roedd gwely llymeirch (Ostrea edulis) allan yn y môr o Borth Golmon. I'w gyrraedd, oedd yn rhaid hwylio allan o Benrhyn Melyn nes gwelid dau gorn simdde Tyddyn Belyn, Penllech, i ganlyn tŵr eglwys Tudweiliog (Gruffydd, 1991).

Yn syth allan o Borth Golmon mae gwely cregyn bylchog (Pecten maximus). Ambell dro daw cychod treillio cregyn bylchog yma i'w dal.

Bellach, cimychiaid yw'r bysgodfa bwysicaf yma.

 

Porth Golmon, 1940s

 

"Bisichi"

 

Porth Golmon

 

PORTH GOLMON

Four men from Porth Golmon were caught smuggling salt and imprisoned at Caernarfon. Their families pleaded for their release but their please were rejected. One of the men became so thin that he was able to escape between the bars of his cell. He made his way home where his family hid him in a butter churn. When his strength returned, he dressed as a woman and made good his escape to America.

Hyde Hall (1810) said that Porth Golmon provided some shelter for herring boats.

There was an oyster (Ostrea edulis) bed off Porth Golmon. It was reached by sailing out from Penrhyn Melyn until the two chimneys of Tyddyn Belyn, Penllech, could be seen on Tudweiliog church tower (Gruffydd, 1991).

There is a scallop (Pecten maximus) bed directly out of Porth Golmon. Scallop dredgers come occassionally to work the bed.

Lobstering is the main fishery here now.

 

PORTH YSGADEN

Ysgaden yw un o'r enwau Cymraeg am Clupea harengus, penog yw'r enw arall.

Dywedodd Thomas Pennant (1771) bod digonedd o benwaig yn cael eu dal rhwng Porth Ysgaden ac Ynys Enlli. Tua £4,000 oedd gwerth arferol yr helfa. Roedd yr helfa yn cael ei halltu ar y lan neu ei glydo'n syth i Ddulyn gan gychod Gwyddelig.

I'r gorllewin o Drwyn Porth Ysgaden y mae Porth Ysgaden ei hyn ac i'r dwyrain y mae Porth y Cychod. Nid oes modd mynd a thractor i awr i Borth y Cychod ac mae'n rhaid felly defnyddio peiriant i halio'r cychod o'r dŵr.

 

 

Porth Ysgaden

 

Porth y Cychod

 

"Gwylan"

 

PORTH YSGADEN

"Ysgaden" is one of the Welsh names for herring.

Thomas Pennant (1771) said that herring were taken in abundance between Porth Ysgaden and Bardsey Island. The catch was normally valued at around £4,000. The catch was either salted ashore or taken directly to Dublin by Irish wherries.

Porth Ysgaden itself lies to the west of Porth Ysgaden Head and Porth y Cychod (Boats' Cove) lies to the east. There is no way of taking a tractor down to Porth y Cychod, therefore, stationary engines are used to haul the boats out of the water.

 

PORTHDINLLAEN

Yn 1287, roedd 63 o rwydi ym Mhorthdinllaen.

Mae rhestr o 1680 yn dangos  pwysigrwydd rhwydi fel rhan o eiddo rhywun :-

Einion ap Addach - 9 ych, 6 buwch, 20 dafad 3 heffar, 3 rhwyd.

Ieuan ap Madog - 4 ych, buwch, ceffyl, heffar, cwch a 4 rhwyd.

Llywarth Crun - buwch a rhwyd.

Bleddyn Fychan - 6 ych, 3 buwch, 2 geffyl, cwch bach a 3 rhwyd.

Tagwynstl wraig Addaf - 2 fuwch, ceffyl, heffar a rhwyd.

Dai Bach - 2 ddafad, heffar a 2 rwyd.

Roedd y mwyafrif o benwaig Nefyn/Porthdinllaen yn cael eu glannio ym Mhorthdinllaen. Yn ôl les ystad Cefn Amwlch (1710), roedd yn bysgodfa rydd. Dywedodd Hyde Hall (1810) fod cytiau cochi ar hyd y lan.

Bellach mae'r gwalc a'r corgimwch yn cael ei ddal gan gychod o Borthdinllaen yn ogystal a chimychiaid.

 

Porthdinllaen, 1930

 

Porthdinllaen

 

Chwalc/Whelk

 

Corgimwch/Prawn

PORTHDINLLAEN

In 1287, there were 63 nets at Porthdinllaen.

A 1680 inventory shows the importance attached to nets as part of one's possessions:-

Einion ap Addach - 9 oxen, 6 cows, 20 sheep, 3 heifers, 3 fishing nets.

Ieuan ap Madog - 4 oxen, 1 cow, 1 horse, 1 heifer, a boat and 4 nets.

Llywarth Crun - 1 cow, 1 net.

Bleddyn Fychan - 6 oxen, 3 cows, 2 horses, 1 small boat and 3 nets.

Tagwynstl wraig Addaf - 2 cows, 1 horse, 1 heiffer and a net.

Dai Bach - 2 sheep, 1 heiffer and 2 nets.

Until the 19th century, most of the Nefyn/Porthdinllaen herring were landed at Porthdinllaen. According to the Cefn Amwlch estate lease (1710), it was a free fishery. Hyde Hall (1810) said that curing stations lined the bay.

Today, whelks and prawns are caught in addition to lobsters by boats working out of Porthdinllaen.

NEFYN

Mae'n debyg mai am benwaig y mae Nefyn yn fwyaf enwog ac y mae'r bysgodfa yma'n deilwng o dudalen arbennig.

Yn 1294, roedd yn Nefyn 2 gwch pysgota gwerth 20 swllt yr un, 2 gwch llai gwerth 13/4 yr un a 68 o rwydi gwerth 2 swllt yr un.

Erbyn, 1810 gwelodd Hyde Hall tua 40 o gychod, pob un ym mherchnogaeth saith dyn.

 

Nefyn, 1930s

 

Polion sychu rhwydi/Net drying poles

NEFYN

Nefyn is probably most famous for its herring and this fishery is worthy of its own page.

In Nefyn in 1294, there were 2 boats worth 20 shillings each, 2 smaller boats worth 13/4 each and 68 nets worth 2 shillings each.

By 1810, Hyde Hall had seen about 40 boats, each owned by seven men.

TREFOR

Yn ôl Eben Fardd, "Llanaelhaearn Creeke" oedd yr enw ar Drefor yn yr ail ganrif ar bymtheg ac arferai'r bobl fynd i bysgota mecryll oddi yno yn ystod yr haf.

Yn 1900, roedd yno 20 o gychod pysgota ond dim ond 8 erbyn 1950.

Dim ond dau pysgotwr proffesiynol sy'n gweithio allan o Drefor bellach er fod yno amryw o bysgotwyr rhan-amser.

 

Trefor, 1985 - cyn tynnu'r buncar ac ail wneud y cei/before dismantling the bunker and re-building the quay.

 

 

 

TREFOR

According to the poet, Eben Fardd, Trefor was known as "Llanaelhaearn Creeke" during the 17th century and the people went fishing for mackerel from there during the summer.

There were 20 boats there in 1900 but only 8 by 1950.

Only two professional fishermen work out of Trefor now although there are several part-time fishermen.

Llyfryddiaeth/References.

Gruffydd, E. (1991), "Ar Hyd Ben 'Rallt," Gwasg yr Arweinydd, Pwllheli.

Hall, E. H. (1952), "A Description of Caernarvonshire." eds. T. Jones Pierce & E. Gwynne Jones, Caernarfon.

Jones, J. (Myrddin Fardd) (1905), "Cynfeirdd Lleyn: 1500-1800," Pwllheli.

Smylie, M. (1998), "The Herring Fishers of Wales." Carreg Gwalch.

 

Top

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2004